Pan yn nyffryn cysgod angeu
Pan yn griddfan dàn fy mhwn,
Mae Calfaria'n ddigymylau,
Dwyfol ddydd fedyddia hwn:
Pen Calfaria
Wedd newidiodd croes fy Nuw.
Bu ei ben dàn gwmwl unwaith -
Cwmwl o ddigofaint llawn;
Ond am byth diflanodd ymaith,
O flaen haul digonol iawn!
Pen Calfaria!
Ni ddaw nôs i'w
gopa mwy!
Dringo'r mynydd ar fy ngliniau
Geisiaf, heb ddiffygio byth;
Tremiaf drwy gawodydd dagrau
Ar y groes yn union syth:
Pen Calfaria
Dry fy nagrau'n ffrwd o hedd.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tonau [878747]: gwelir: Rhan I - I Galfaria trof fy ŵyneb |
When in the vale of the shadow of death
When groaning under my load,
Calfary is unclouded,
Divine day baptises it:
Head of Calvary
Whose aspect my God's cross changed.
His head was under a cloud once -
A cloud full of wrath;
But forever it vanished away,
Before the wholly sufficient sun!
Head of Calvary!
Night shall never again
come to its summit!
To climb the mountain on my knees
I will try, without ever wearying;
I will gaze through showers of tears
Directly on the cross:
Head of Calvary
It turns my tears into a stream of peace.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|